Cerrynt corddol ar y creigiau
Tonau tawel ar y traeth
Cofion cynnes, cwmni'r creithiau
Ac alaw addfwyn amser maith
Fel y darlun yn dy boced
Sy'n ddu a gwyn ond bythol wyrdd
Olion arwyr ar y donfedd
Fel llun ni phyla byth
Clywch y gri hen wragedd gyda'i ffyn
Yn holi gŵyr y gwynt
Oes 'na lwyfan yn y nefoedd?
Oes 'na neuadd yn y nef?
Lle mae'r haul a'r mellt
Yr arwain symffoni y sêr
A phob un yn ei tro
Yn codi'r to
Wedi'r encore
Ar yr orsedd mae'r tywysog
Cwmwl porffor uwch ei ben
Yn cyfeilio dawns y daran
A pharti canu lleisiau'r nen
Ond pe bawn i 'mond yn gallu
Gweld y byd trwy sbectol John
Neu glywed clychau Aberstalwm
Yn llenwi'r bore llon.
Mae sisial fwyn islaw'r hen graig
Fel swyn y delyn aur
Oes 'na lwyfan yn y nefoedd?
Oes 'na neuadd yn y nef?
Lle mae'r haul a'r mellt
Yr arwain symffoni y sêr
A phob un yn ei tro
Yn codi'r to
Wedi'r encore
Adar o'r un lliw ehedant i'r un lle
Pan fo llenni oes yn cau
Ond mae 'na seren ychwanegol dros y dref
Pan fo'r matinee ymlaen....
Oes 'na lwyfan yn y nefoedd?
Oes 'na neuadd yn y nef?
Lle mae'r haul a'r mellt
Yr arwain symffoni y sêr
A phob un yn ei tro
Yn codi'r to
Wedi'r encore