Tramwywn ar gyflym adennydd myfyrdod i Fethlem yn awr,
I weled ffynhonnell llawenydd angylion a lluoedd y llawr.
Os canu yn fwyn ac ardderchog wnâi engyl wrth weled eu Duw,
Ai ni roddwn ninnau fawl serchog i'r Iesu? - ein Prynwr ni yw.
Cans er ein mwyn ni ei wael ddynion gadawodd bob mawredd a bri,
Ac er ein mwyn ni ei elynion y daeth Ef i lawr i'n byd ni.
Ac er ein mwyn ni mewn gael feudy y ganwyd E'n faban tylawd,
Ac O! er ein mwyn y bu'n gwaedu ar groesbren mewn dirmyg a gwawd.
Er gwared rhyw adyn colledig a llwyr felltigedig fel fi
Y gwelwyd yr Iesu'n hoeliedig a'i waed Ef yn rhedeg yn lli.
O! rhyfedd oedd gweled Creawdwr a Llywiwr y bydoedd i gyd
Yn dyfod i fod yn Iachawdwr i brynu pechadur mor ddrud.
Ei sylfaen bob awr fydd safadwy, ni chryn ei adeilad un dydd,
Er rhuo holl stormydd ofnadwy y fagddu - diogel a fydd.